Amcangyfrif Blynyddol 2022-23

 Y Comisiwn Etholiadol, Cymru

Costau’r Senedd

2022-23

Sylwadau

£000

Costau Uniongyrchol (tâl a di-dâl)

 

 

 

Gweinyddu Etholiadol

 

 

 

Cymru

308

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o’r costau cefnogi a pharatoi ar gyfer cynnal yr Etholiadau Llywodraeth Leol yng Nghymru yn 2022. Bydd hyn yn cynnwys datblygu a chyflwyno canllawiau ar-lein a darparu adnoddau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid, Swyddogion Canlyniadau/Swyddogion Cofrestru Etholiadol a gweinyddwyr etholiadol.  Byddwn yn defnyddio ein safonau perfformiad gan ymgysylltu â Swyddogion Canlyniadau/Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gefnogi a herio’r modd y maent yn cyflawni digwyddiadau a gweithgareddau etholiadol. Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r gymuned etholiadol yng Nghymru trwy’r amryw grwpiau rhanddeiliaid rydym yn eu rheoli, er enghraifft Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru a Phanel Pleidiau’r Senedd. Byddwn yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i roi cyngor a barn arbenigol wrth i ddiwygiadau etholiadol, megis cynlluniau peilot, gael eu datblygu. Bydd tîm Cymru hefyd yn rhoi adnoddau a chymorth i brosiectau sy’n cael eu cynnal y tu allan i Gymru (e.e. ar adrodd deuol) ond sy’n cael effaith uniongyrchol ar etholiadau datganoledig. Byddwn yn parhau i gyflawni ein cyfrifoldeb statudol drwy fodloni Safonau'r Gymraeg a osodir gan Gomisiynydd y Gymraeg, a byddwn yn arwain ac yn cynorthwyo aelodau o’r Comisiwn ehangach i sicrhau bod ein hymrwymiadau i’r Gymraeg yn cael eu cynnal.

 

Cefnogaeth

47

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o’r costau monitro a chefnogi gwaith y Swyddogion Canlyniadau a’r Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru ar gyfer 2022-23, gan wneud gwaith ailddatblygu ac ymgynghori hanfodol ar set newydd o safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Canlyniadau, sydd i’w gosod i’r Senedd yn ystod y flwyddyn ariannol.

 

Canllawiau

44

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o’r costau cefnogi’r Etholiadau Llywodraeth Leol yng Nghymru yn 2022. Byddwn yn rhoi cyngor mewn ymateb i ymholiadau gan Swyddogion Canlyniadau/ Swyddogion Cofrestru Etholiadol a gweinyddwyr etholiadol drwy gydol y flwyddyn, ond enwedig cyn, yn ystod ac ar ôl yr etholiad.

 

Adnodd newydd ar gyfer etholiadau datganoledig

93

Mae hyn yn cynrychioli costau dau aelod o staff a fydd yn cael eu cyflogi i gefnogi’r gwaith o gynnal rhaglen diwygio etholiadol helaeth Llywodraeth Cymru a’r Senedd - gan sicrhau bod y ddeddfwriaeth gymhleth hon yn glir ac yn ymarferol - yn ogystal â hyrwyddo ein rhaglen addysg i bleidleiswyr, a phobl ifanc yn benodol.    

 

492

 

 

Cyfreithiol

 

 

 

Cyfreithiol

115

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o’r costau darparu cefnogaeth gyfreithiol i swyddogaethau cyngor, canllawiau a rheoleiddio’r Comisiwn, a chyngor cyfreithiol cyfamserol cyn, yn ystod ac ar ôl yr Etholiadau Llywodraeth Leol yng Nghymru yn 2022. Mae hefyd yn cynnwys cefnogi rheoleiddio ar ôl y bleidlais a datblygu unrhyw argymhellion polisi, yn ogystal â rhoi cyngor cyfreithiol cyffredinol a chyfredol ar ddeddfwriaeth Cymru, a chefnogi swyddogaethau’r Comisiwn fel y bônt yn ymwneud â Chymru (gan gynnwys cofrestru, rheoleiddio, polisi, gweinyddu etholiadol, llywodraethu a chydymffurfio â Safonau’r Gymraeg).

 

 

 

Rheoleiddio

 

 

 

Cofrestru ac adrodd

41

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o’r costau ar gyfer y gwaith sy’n gysylltiedig â’r adroddiadau statudol sydd eu hangen gan bleidiau gwleidyddol yng Nghymru, megis adroddiadau rhoddion a benthyciadau chwarterol, cofrestriadau blynyddol manylion pleidiau a chyflwyniadau blynyddol Datganiadau o Gyfrifon. Mae tîm Cymru yn rhoi cymorth i bleidiau drwy bob un o’r prosesau hyn, ac rydym yn cyhoeddi’r data ariannol sy’n gysylltiedig â’r cyflwyniadau hyn.

 

Monitro a gorfodi

39

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o’r costau sy’n gysylltiedig â’r gwaith cydymffurfio a gorfodi sy’n deillio o bleidiau ac ymgyrchwyr yng Nghymru. Mae ein gwaith monitro yn cynnwys adolygu gweithgarwch ymgyrchu, a chynnal gwaith gorfodi os oes angen. Mae’r Comisiwn yn gweithio gydag endidau a reoleiddir, gan gynnwys pleidiau, ymgyrchwyr, ymgeiswyr ac aelodau etholedig i sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r rheolau er mwyn osgoi cymryd camau gorfodi. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Pwynt Cyswllt Sengl (SPOC) o fewn pob ardal Heddlu i roi cyngor ac arweiniad yn ystod cyfnod yr etholiad. Mae ein gwasanaethau cynghori ar gael i’n holl endidau a reoleiddir a’n holl rhanddeiliaid.

 

 

Fel rhan o’n monitro a’n gorfodi, rydym yn gweithio gyda swyddogion y Senedd i ddod ag adrodd deuol i ben yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i ASau roi gwybod am roddion a benthyciadau dwywaith, i’r Senedd ac i’r Comisiwn Etholiadol Bydd dod ag adrodd deuol i ben, fel sydd wedi digwydd yn San Steffan a Senedd yr Alban, yn lleihau’r baich gweinyddol sydd ar aelodau etholedig sy’n gorfod rhoi gwybod am yr un rhodd neu fenthyciad dwywaith i ddau gorff gwahanol.

 

Cymorth rheoleiddiol

30

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o’r costau sy’n gysylltiedig â datblygu canllawiau gwariant, rhoddion ac adrodd ar ôl y bleidlais ar gyfer yr Etholiadau Llywodraeth Leol yng Nghymru yn 2022. Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym yn darparu sesiynau hyfforddiant i ymgeiswyr ac asiantiaid cyn yr etholiadau. Mae’r rhain yn cael eu cynnal yng nghynadleddau’r pleidiau, yn sesiynau'r ymgeiswyr awdurdodau lleol ac yn seminarau pwrpasol y Comisiwn, a’u diben yw sicrhau lefelau uchel o gydymffurfedd gyda’r rheolau.

 

 

Mae tîm Cymru hefyd yn rhoi cyngor a chanllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid cyn etholiadau, a bydd hyn yn cynnwys yr Etholiadau Llywodraeth Leol yng Nghymru yn 2022. Rydym hefyd yn rhoi’r un gwasanaeth cynghori i bleidiau, ymgyrchwyr ac aelodau etholedig drwy’r flwyddyn gyfan.

 

 

 

 

Cyfathrebu, polisi ac ymchwil

225

 

 

Ymgyrchoedd a Hunaniaeth Gorfforaethol

126

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o gostau tîm ymgyrchoedd y Comisiwn yn seiliedig ar ein hamcangyfrif o sut y caiff eu hamser ei dreulio. Byddwn yn cynnal dau ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus cyn yr Etholiadau Llywodraeth Leol yng Nghymru yn 2022 - ein hymgyrch ‘Oes 5 ‘da ti’ ar gyfer cofrestru i bleidleisio a’n hymgyrch etholfraint ‘Croeso i Dy Bleidlais’ ar gyfer pobl ifanc 16/17 mlwydd oed. Mae’r costau hyn yn cwmpasu gweithio gyda’n prynwr cyfrangau a hysbysebu cyfryngau cymdeithasol yn ystod pythefnos o weithgarwch ymgyrchu yn 2022-23, ochr yn ochr â chasglu data a chwblhau adroddiad gwerthuso terfynol ar ôl ymgyrchu. Byddwn hefyd yn ymgymryd â gwaith partneriaeth gydag ystod o sefydliadau democrataidd a thrydydd sector ar draws Gymru, gan eu hannog i ymgysylltu â’n hymgyrch, ein gwybodaeth i bleidleiswyr a’n deunyddiau addysg er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd grwpiau sydd newydd eu rhyddfreinio, grwpiau sydd wedi’u tangofrestru a grwpiau sydd wedi’u hymddieithrio.

 

Cyfathrebu a dysgu digidol

61

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o gostau tîm cyfathrebu a dysgu digidol y Comisiwn yn seiliedig ar ein hamcangyfrif o sut y caiff eu hamser ei dreulio. Mae hyn yn cwmpasu adeiladu ar ein gwaith llythrennedd gwleidyddol presennol drwy ddatblygu ein hadnoddau addysg i gwmpasu mwy o gynnwys sy’n benodol i Gymru, gan gymryd i ystyriaeth y cyd-destun addysgiadol ehangach yng Nghymru gan gynnwys y newidiadau i’r cwricwlwm cenedlaethol yn 2022; ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16-17 mlwydd oed a’r Etholiadau Llywodraeth Leol yng Nghymru yn 2022. Byddwn hefyd yn ymgymryd â gwaith ymgynghori gydag amrywiaeth o athrawon, sefydliadau ieuenctid a phobl ifanc ar draws Gymru er mwyn cael eu hadborth a’u mewnbwn ar ein hadnoddau i sicrhau eu bod yn effeithiol ac yn addas.

 

Cyfathrebu allanol

59

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o gostau tîm cyfathrebu allanol y Comisiwn (swyddfa’r wasg a materion cyhoeddus) yn seiliedig ar ein hamcangyfrif o sut y caiff eu hamser ei dreulio. Mae hyn yn cwmpasu delio’n ymatebol gydag ymholiadau gan y wasg ac ymholiadau materion cyhoeddus; cynnal gwaith ymgysylltu rhagweithiol gyda’r cyfyngau yn ystod ein cyfnod ymgyrchu ac ar gyfer cyhoeddiadau rheoleiddiol arferol ac adroddiadau’r Comisiwn, a pharatoi ar gyfer cyfarfodydd gydag Aelodau’r Senedd. Bydd cefnogaeth ar gyfer swyddfa’r wasg a materion cyhoeddus yn cael ei chynyddu ar gyfer gweithgarwch yn ymwneud ag agenda diwygio etholiadol Llywodraeth Cymru, megis cynlluniau peilot.

 

Ymchwil

67

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o gostau tîm ymchwil y Comisiwn yn seiliedig ar ein hamcangyfrif o sut y caiff eu hamser ei dreulio. Mae hyn yn cwmpasu rhaglen o ymchwil ar draws Etholiadau Llywodraeth Leol yng Nghymru yn 2022 sy’n debygol o gynnwys: bwrw golwg blynyddol ar agweddau’r cyhoedd; casglu data ar gywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholiadol, adolygu ymgeiswyr a chasglu adborth gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol, Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol.

 

Polisi

62

Mae hyn yn cynrychioli cyfran y Pwyllgor o gostau tîm polisi y Comisiwn yn seiliedig ar ein hamcangyfrif o sut y caiff eu hamser ei dreulio. Mae hyn yn cwmpasu dadansoddi ac adrodd ar yr Etholiadau Llywodraeth Leol yng Nghymru yn 2022 er mwyn nodi tueddiadau a materion i’w hystyried gan wneuthurwyr polisi a dod â thystiolaeth a dadansoddiadau o rannau eraill y DU ac yn rhyngwladol at ei gilydd er mwyn llywio ein safbwyntiau ar gynigion penodol gan Lywodraeth Cymru.

 

375

 

 

 

 

Cyfanswm Costau Uniongyrchol

1092

 

 

 

 

Costau Anuniongyrchol

 

 

 

Adnodd

252

5% o gostau swyddfa gefn, gan gynnwys rhent, cyfraddau, TGCh, cyllid, Adnoddau Dynol a chostau rheoli

 

Dibrisiant

75

5% o’r dibrisiant ar gyfer gwariant cyfalaf, gan gynnwys uwchraddio’r system Cyllid Gwleidyddol a systemau eraill

 

327

 

 

 

 

Cyfanswm Costau Anuniongyrchol

327

 

 

 

 

Cyfanswm cyfraniad

1,419